Where we work
We work with individuals and communities across the county boundaries of Powys, Monmouthshire, Torfaen, Blaenau-Gwent and Merthyr Tydfil, wrapping around the length of the river Usk, from:
Yr Hen Ysgol (The Old School) near the small town of Crug Hywel in the Brecon Beacons National Park. The site has a large and airy studio, kiln facilities, a community kitchen, Peak’s offices and (currently in development), a community garden. Preparing and sharing food together is valued by staff, partners and collaborators, and is considered integral to hosting across our programmes. Access: All spaces are on the ground floor and the building has a level access entrance to the rear of the building, where there is also a small carpark. An accessible toilet is available.
Gorsaf Drenau’r Fenni (Abergavenny Train Station) the last stop on the trainline into and out of Wales in the town of Abergavenny, on the busy Welsh Marches line (100,000 annual passenger journeys from Abergavenny). We have a reading room and studio space on Platfform 2 (direction Cardiff Central) and are developing artist studio spaces in the main station building in partnership with Transport for Wales. Access: Platfform 2 is accessed by a passenger foot bridge with stairs (there are 24 steps up and 21 steps down). There is currently no lift. For level access to Platform 2 aided by Transport for Wales staff, assistance can be requested from the Ticket Office on Platform 1 during opening hours and from train crew when it is closed. There is an accessible toilet located within the station cafe on Platfform 1. There are 8 accessible parking spots for blue badge holders. Find more information about station access here.
Ein tirlun gwledig (Our rural landscape) where the complexities of its geology, history, archaeology, ecology and economy is the grounding for our work with partners and collaborators. A talk, a workshop, or a walk might take us uphill onto the Iron Age hillfort of Crug Hywel amongst kites, buzzards and wild horses, or downhill to the river Usk or along the Monmouthshire & Brecon Canal.
Lleoliad ein gwaith
Nid oes gofod celf penodedig tebyg yn y rhanbarth. Rydym yn gweithio gydag unigolion a chymunedau ledled ffiniau siroedd Powys, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, sy’n rhedeg ar hyd yr Afon Wysg, o:
Yr Hen Ysgol, adeilad Fictorianaidd ger tref fechan Crug Hywel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae yno stiwdio eang, odyn, cegin gymunedol, swyddfeydd Peak a gardd gymunedol sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae staff, partneriaid a chydweithwyr yn gwerthfawrogi paratoi a rhannu bwyd, ac mae hwn yn rhan hanfodol o’n gwaith o groesawu a chynnal digwyddiadau ar draws ein rhaglenni. Hygyrchedd: Mae’r holl ofodau ar y llawr gwaelod ac mae gan yr adeilad fynediad gwastad yng nghefn yr adeilad, lle mae yna faes parcio hefyd. Mae tŷ bach hygyrch ar gael.
Gorsaf Drenau’r Fenni, yr orsaf olaf ar y llinell i mewn ac allan o Gymru, ar linell brysur Y Mers (100,000 o deithwyr blynyddol o’r Fenni). Mae gennym ystafell ddarllen a gofod stiwdio ar Blatfform 2 (cyfeiriad Caerdydd Canolog) ac rydym yn datblygu gofodau stiwdio artistiaid ym mhrif adeilad yr orsaf mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru. Hygyrchedd: Mae mynediad i Blatfform 2 dros bont gerdded i deithwyr, sydd â grisiau (mae 24 o risiau i fyny, a 21 o risiau i lawr). Does dim lifft ar hyn o bryd. Er mwyn cael mynediad gwastad at Blatfform 2 gyda chymorth staff Trafnidiaeth Cymru, mae modd gofyn am gymorth gan y Swyddfa Docynnau ar Blatfform 1 yn ystod yr oriau agor, a gan griw’r trenau pan fydd y swyddfa ar gau. Mae tŷ bach hygyrch yng nghaffi’r orsaf ar Blatfform 1. Mae wyth lle parcio hygyrch ar gyfer deiliaid bathodyn glas. Mae mwy o wybodaeth am hygyrchedd yr orsaf yma.
Ein tirlun gwledig, lle mae cymhlethdodau ei daeareg, hanes, archaeoleg, ecoleg ac economi yn sail i’n gwaith gyda’n partneriaid a’n cydweithwyr. Efallai y bydd sgwrs, gweithdy neu wâc yn golygu ein bod yn esgyn i fryngaer Oes Haearn Crug Hywel ymysg barcudiaid, bwncathod a cheffylau gwyllt, neu’n disgyn at afon Wysg, neu’n ymlwybro ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.