Our Plot \ Ein Darn o Dir
Across 2024 we’re beginning to imagine a community garden for the former playground and car park of The Old School. \ Yn ystod 2024, rydym yn dechrau dychmygu gardd gymunedol ar gyfer yr hen faes chwarae a’r maes parcio tu allan i’r Hen Ysgol.
Do you live in or near Crickhowell?
Are you interested in joining a community gardening group?
Come and join Peak at the Old School, Crickhowell!
Our Plot is a new, free, drop-in community gardening group for adults of all ages to come together and learn new skills with gardener Eileen Williams-Sweet. Throughout the summer, we will be working together to plant and grow an experimental community garden, culminating in a harvest feast together in the Autumn.
The aspirations for our garden, developed by Young People, include:
the garden will be a place to grow things we love
the garden will create community
the garden will be an artist studio
the garden will not have any clocks
What you can expect
Meet and work together with other local people
Learn to grow your own food and maintain an edible garden
Explore creative activities towards hosting a shared feast
Celebrate the seasons through growing, cooking and making
Who you are
An adult of any age (18+) living within an hour of Crickhowell
Keen to try new things and work with other people
No previous gardening experience necessary
Dates & Location
Thursday 27 June
Thursday 11 July (willow-weaving)
Thursday 25 July (ceramics)
Thursday 8 August (ceramics)
Thursday 22 August (natural dying)
Thursday 12 September (pickling and fermenting)
Thursday 26 September
Thursday 3 October
Thursday 10 October
Every session will take place 1:30-4:30pm at The Old School, Brecon Road, Crickhowell, Powys, NP8 1DG.
Sessions are drop-in, so you can attend all, some or part of a session. Tools and refreshments provided – please dress appropriately for gardening and/or activities such as ceramics or willow-weaving.
Questions?
If you have any questions, please email polly@peak.cymru or leave a message for Peak on 01873 811579 and we will call you back.
This project is supported by Powys Making a Difference Fund, The Ashley Family Foundation and Awards for All.
Ydych chi’n byw yng Nghrughywel neu’n gyfagos?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno a grŵp garddio cymunedol?
Ymunwch â’r grŵp newydd yma yn Peak, yr Hen Ysgol, Crughywel!
Grŵp garddio cymunedol newydd yw Ein Darn o Dir, sydd am ddim i oedolion o bob oed allu galw heibio, dod at ei gilydd a dysgu sgiliau newydd gyda’r arddwraig Eileen Williams-Sweet. Drwy gydol yr haf, byddwn ni’n cydweithio i blannu a thyfu gardd gymunedol arbrofol, gan gloi’r cyfan gyda gwledd gynhaeaf gyda’n gilydd yn yr hydref.
Mae ein dyheadau ar gyfer yr ardd, sy’n cael ei datblygu gan Bobl Ifanc, yn cynnwys:
gardd a fydd yn lle i dyfu pethau rydyn ni’n eu caru
gardd a fydd yn creu cymuned
gardd a fydd yn stiwdio artistiaid
gardd heb glociau ynddi
Beth i’w ddisgwyl
Cwrdd a chydweithio gyda phobl leol eraill
Dysgu i dyfu eich bwyd eich hunan a chynnal gardd fwytadwy
Archwilio gweithgareddau creadigol tuag at gynnal gwledd i’w rhannu
Dathlu’r tymhorau drwy dyfu, coginio a chreu
Pwy ydych chi
Oedolyn o unrhyw oedran (18+) sy’n byw o fewn awr i Grughywel
Rhywun sy’n awyddus i roi cynnig ar bethau newydd ac i weithio gyda phobl eraill
Does dim angen profiad garddio blaenorol
Dyddiadau a Lleoliad
Dydd Iau 27 Mehefin
Dydd Iau 11 Gorffennaf (gwau helyg)
Dydd Iau 25 Gorffennaf (cerameg)
Dydd Iau 8 Awst (cerameg)
Dydd Iau 22 Awst (lliwio naturiol)
Dydd Iau 12 Medi (eplesu a phiclo)
Dydd Iau 26 Medi
Dydd Iau 3 Hydref
Dydd Iau 10 Hydref
Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal 1:30-4:30pm yn yr Hen Ysgol, Heol Aberhonddu, Crughywel, Powys, NP8 1DG.
Mae’r sesiynau’n rhai galw heibio, felly gallwch ddod i sesiwn gyfan neu ran ohoni. Darperir offer a lluniaeth – gwisgwch yn addas ar gyfer garddio a/neu weithgareddau fel serameg a gwehyddu helyg.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at polly@peak.cymru neu gadewch neges i Peak ar 01873 811579 a byddwn ni’n eich ffonio’n ôl.
Cefnogir Ein Darn o Dir gan Gronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, Sefydliad Teulu Ashley, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.