Comisiynau | Commissions
Ffion Williams
Cymraeg Ddrwg
02/11/ 2024 – 21/02/2025
Comisiynau Platfform 2 | Platfform 2 Commissions 2024-25
When using Welsh I make mistakes, miss mutations, and substitute English words to make my point. I call this Cymraeg Ddrwg (bad Welsh). Through this, I embrace language as an evolving tool for creation.”
– Ffion Williams
Between Autumn 2024 and Summer 2025, we’re developing a trio of young artist commissions for Peak’s window spaces at Platfform 2, Y Fenni Station. The first commission was undertaken by Ffion Williams, an artist from Abergavenny who is now based between Wales and Scotland.
Ffion took part in Peak’s Platfform Haf programme (now Peak Peers) in 2022 and following that, a period of research at Abergavenny Station, interviewing people about Welshness, language and identity. Encorporating snippets of conversations, station annoucements and field recordings captured during this research, Cymraeg Ddrwg took shape as a series of overlapping fabric banners with painted text elements installed in the windows of Platfform 2. It was view alongside Ffion’s Billboard Gallery commission for Llantarnam Grange, an arts organisation located in Cwmbran, a short journey South along the Marches railway line. We celebarted the commission with a two-part launch event at both venues in November 2025.
For each Platfform 2 commission, we invite a writer based in Wales or the Welsh borderlands to respond to the artwork with a text. We’re delighted to share a response from journalist Jude Rogers, who chatted with Ffion on a rainy morning at Platfform 2 in February 2025, surrounded by Ffion’s artworks. Their far-ranging conversation delved into the absurdity of language, hope, regret and modern Wales.
Rhwng hydref 2024 a haf 2025 rydyn ni’n datblygu tri darn o waith comisiwn gan artistiaid ar gyfer ffenestri Peak ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni. Ffion Williams, artist o’r Fenni sydd bellach yn byw rhwng Cymru a’r Alban, gyflawnodd ein comisiwn cyntaf.
Cymerodd Ffion ran yn rhaglen Platfform Haf Peak (sef Cyfoedion Peak erbyn hyn) yn 2022, ac wedi hynny gwnaeth gyfnod o ymchwil yng Ngorsaf y Fenni, gan gyfweld â phobl am Gymreictod, iaith a hunaniaeth. Gan ymgorffori pytiau o sgyrsiau, cyhoeddiadau gorsaf a recordiadau maes a gasglwyd yn ystod y gwaith ymchwil yma, datblygodd Cymraeg Ddrwg yn gyfres o faneri defnydd oedd yn gorgyffwrdd, gydag elfennau testun wedi’u paentio wedi’u gosod yn ffenestri Platfform 2. Cafodd ei arddangos ochr yn ochr â chomisiwn Oriel Bwrdd Posteri Ffion ar gyfer Llantarnam Grange, sef sefydliad celfyddydol yng Nghwmbrân, sydd ddim ond taith fer tua’r de ar hyd rheilffordd y Gororau. Fe wnaethon ni ddathlu’r comisiwn gyda digwyddiad lansio dwy ran yn y ddau leoliad ym mis Tachwedd 2025.
Ar gyfer pob darn comisiwn i Platfform 2, rydyn ni’n gwahodd awdur sy’n byw yng Nghymru neu ar y Gororau i ymateb i’r gwaith celf gyda darn o destun. Rydyn ni’n falch iawn o gael rhannu ymateb gan y newyddiadurwraig Jude Rogers, a fu’n sgwrsio â Ffion ar fore glawog ym Mhlatfform 2 ym mis Chwefror 2025, wedi’i hamgylchynu gan weithiau celf Ffion. Aeth eu sgwrs ar drywydd abswrdiaeth iaith, gobaith, edifeirwch a Chymru fodern.
More about Ffion’s practice: Ffion uses sound, metal work and protest banner motifs to create work that investigates language, place, protest, and industrialisation. Responding to tthe complex legacy of the Welsh language, a minority language that was banned for over 500 years, they use Cymraeg to explore their own complex and uneasy relationship with Welshness.
Platfform 2 commissions are funded by ACW Create and Paul Hamlyn Foundation.
Photos / Lluniau: Polly Thomas
Mwy am arfer Ffion: Mae Ffion yn defnyddio sain, gwaith metel a motiffau baneri protest i greu gwaith sy’n ymchwilio i iaith, lle, protest a diwydiannu. Gan ymateb i waddol cymhleth y Gymraeg, a gafodd ei gwahardd am dros bum can mlynedd, maen nhw’n defnyddio’r iaith leiafrifol i archwilio eu perthynas gymhleth ac anesmwyth â Chymreictod.
Ariennir gwaith comisiwn Platfform 2 gan gronfa Creu Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Paul Hamlyn.
Comisiynau Platfform 2 | Platfform 2 Commissions 2024-25
Mariana Zentella
Place of Transit | Ardal Tramwy
22/02/25 – 31/05/25
‘I wanted to represent the station as a point of transit: somewhere between here and there, between home and work, between home and school, in-between the complex Welsh borderland and in the middle of the mountains.’
– Mariana Zentella
Our second Platfform 2 commission, Place of Transit, by Mariana (Zeta) Zentella is currently on display at Platfform 2, Y Fenni Station, until the end of May 2025. Zeta’s work is inspired by experiences of migration and explores how people inhabit and move through culturally complex environments in multi-layered maps, textile works and installations. We launched Zeta’s commission in early March with an artist talk, walk and mapping workshop led by Zeta and queer ecologist Izzy Mcleod.
Here’s Zeta to explain a bit more about her process: ‘Over the last year, I have spent a significant amount of time at Abergavenny Station, journeying back and forth from Cardiff and waiting under many weathers on platform 2. In developing this commission, I am thinking about borders, movement, and belonging. I want to record the experience of commuting on this train line by layering and intertwining observational drawings of passengers, collected over the last year, with imagery from maps of the area, sewn and painted on banners. I hope these will act as a small reminder or connection, for those in transit, to this landscape and wider context of the station.’
Mae ail gomisiwn Platfform 2, Ardal Tramwy, gan Mariana (Zeta) Zentella i’w weld ar hyn o bryd ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni, tan ddiwedd mis Mai 2025. Mae gwaith Zeta wedi’i ysbrydoli gan brofiadau mudo ac yn archwilio sut mae pobl yn byw ac yn symud trwy amgylchedd sy’n ddiwylliannol gymhleth mewn mapiau aml-haenog, gwaith tecstilau a gosodweithiau. Lansiwyd comisiwn Zeta ddechrau mis Mawrth gyda sgwrs artistiaid, taith gerdded a gweithdy mapio gan Mariana a’r ecolegydd cwiar Izzy Mcleod.
Dyma Zeta i egluro ychydig am ei phroses: ‘Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi treulio llawer o amser yng Ngorsaf y Fenni, yn teithio ’nôl a ’mlaen o Gaerdydd ac yn sefyll mewn pob math o dywydd ar y platfform. Wrth ddatblygu’r gwaith comisiwn yma, dw i’n meddwl am ffiniau, symud, a pherthyn. Hoffwn gofnodi’r profiad o gymudo ar y llinell drên yma drwy haenu a rhyngblethu darluniau arsylwadol o deithwyr, a gasglwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda delweddau o fapiau’r ardal, wedi’u gwnïo a’u paentio ar faneri. Gobeithio bydd rhain yn ffordd o atgoffa, neu’n gysylltiad, i’r rhai sy’n teithio – gyda’r tirlun yma a chyd-destun ehangach yr orsaf.’
New writing: Mike Parker Responds to Mariana’s work
‘Maps at railway stations are two-a-penny, but the ones lately appeared on Platform 2 at Abergavenny are not your normal network plans or walking routes into town. Four great banners show a large portrait of Wales, turned on its side, and strangely, beguilingly stylized. There is hint of a fantasy land, perhaps something from Tolkien or the world of gaming. They are familiar, yet not.’ – extract from Mike Parker, Mapping the Borderland.
For each Platfform 2 commission in this series, we invite a writer based in Wales or the Welsh borderlands to respond to the artwork with a text. We’re delighted to share a response from writer, and author of All the Wide Border, Mike Parker, interwoven with documentation from Polly Thomas.
Limited-edition Print
To celebrate the commission and to harvest memories and reflections of travellers in the Welsh borderlands, Zeta has made an edition of 75 unique prints that we'd love to exchange with you. The etchings overlay different mappings of space along the train line, including contour lines, waterways and infrastructure maps. In their composition, each of the prints mixes memories of journeys along the trainline at different times of the day and year, in different weather conditions, and states of mind.
‘If you've ever been on a train running on this line, what memories stay with you from the journey? Who have you travelled with and what did you notice? How well did you get to know the landscape while travelling through?
I'd love to know and post you a memory of my own in return - a stop on the train line, a pause along the way.’ – Mariana Zentella.
Please share your reflection via info@peak.cymru with the subject line Place of Transit, we will be posting out prints in early May 2025 and collating responses to share as the commission draws to a close.
Gwaith newydd: Mike Parker sy’n ymateb i waith Mariana
‘Mae mapiau mewn gorsafoedd trên yn ddigon cyffredin, ond mae’r rhai sydd wedi ymddangos ar Blatfform 2 y Fenni yn ddiweddar yn dra gwahanol i gynlluniau rhwydwaith neu lwybrau cerdded i’r dref arferol. Mae pedair baner eang yn dangos portread mawr o Gymru, wedi’i droi ar ei ochr ac, yn ddigon rhyfedd, wedi’i steilio’n ddeniadol. Mae yna awgrym o dir ffantasi, efallai rhywbeth o Tolkien neu’r byd gemau. Maen nhw’n gyfarwydd, ond eto ddim chwaith.’ – dyfyniad o Mapping the Borderland, Mike Parker.
Ar gyfer pob darn comisiwn Platfform 2 yn y gyfres yma, rydyn ni’n gwahodd awdur sy’n byw yng Nghymru neu ar y Gororau i ymateb i’r gwaith celf gyda darn o destun. Rydyn ni’n falch iawn o gael rhannu ymateb gan awdur All the Wide Border, Mike Parker, wedi’i gydblethu gyda dogfennaeth gan Polly Thomas.
More about Mariana’s practice:
Mariana (Zeta) Zentella is an artist from Mexico City, now living and working in Cardiff; she studied at the Escuela de Diseño Altos de Chavón, in the Dominican Republic, and Cardiff School of Art and Design. Recent exhibitions and programmes include OPEN exhibition, g39 (2023, 2024), Peak Peers (2023) and HOT HOUSE, Cardiff M.A.D.E. (2023).
@marianazentella
Platfform 2 Commissions 2024-25:
Between Autumn 2024 and Summer 2025, we’re hosting three commissions by young artists (18-30 years) in the windows of Peak’s Platfform 2 spaces at Y Fenni Station. Zeta was selected from a call-out shared amongst Young People who have applied to, or taken part in Peak’s annual autumn programme, Peak Peers. Thanks to Hannah, a young artist studying at Crickhowell High School, and filmmaker and artist Tina Pasotra for being on the selection panel, alongside Peak co-director Elen Roberts and Young People’s Curator Cerian Hedd.
This programme of commissions is funded by ACW Create and Paul Hamlyn Foundation.
Photos / Lluniau: Polly Thomas
Print Cyfyngedig
I ddathlu’r comisiwn ac i gynaeafu atgofion a myfyrdodau teithwyr ar hyd y Gororau, mae Mariana wedi creu cyfres o 75 print unigryw y bydden ni’n hoffi eu cyfnewid gyda chi. Mae’r ysgythriadau yn troshaenu gwahanol fapiau o fannau ar hyd y rheilffordd, gan gynnwys cyfuchliniau, dyfrffyrdd a mapiau seilwaith. Yn eu cyfansoddiad, mae pob un o’r printiau’n cymysgu atgofion o deithiau ar hyd y rheilffordd ar wahanol adegau o’r dydd a’r flwyddyn, mewn gwahanol amodau tywydd, a chyflyrau meddwl.
‘Os ydych chi erioed wedi bod ar drên sy’n rhedeg ar hyd y rheilffordd yma, pa atgofion sy’n aros gyda chi o’r daith? Gyda phwy ydych chi wedi teithio ac ar beth sylwoch chi? Pa mor dda ddaethoch chi i nabod y tirlun wrth deithio drwyddo?
Bydden i’n falch iawn o gael gwybod, a phostio atgof gen i yn gyfnewid – gorsaf ar y lein, saib ar y daith.’ – Mariana Zentella.
Rhannwch eich myfyrdod drwy info@peak.cymru gyda’r pwnc Ardal Tramwy. Byddwn ni’n postio’r printiau ddechrau mis Mai 2025, ac yn casglu ymatebion i’w rhannu wrth i’r comisiwn ddod i ben.
Mwy am waith Mariana:
Artist o Ddinas Mecsico yw Mariana (Zeta) Zentella, sydd bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd; mae hi wedi astudio yn Escuela de Diseño Altos de Chavón, yn y Weriniaeth Ddominicaidd, ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Ymhlith ei harddangosfeydd a’i rhaglenni diweddar mae arddangosfa OPEN, g39 (2023, 2024), Cyfoedion Peak (2023) a HOT HOUSE, Cardiff M.A.D.E. (2023).
@marianazentella
Gwaith Comisiwn Platfform 2 2024-25:
Rhwng hydref 2024 a haf 2025, rydyn ni’n cynnal tri gwaith comisiwn gan artistiaid ifanc (18-30 oed) yn ffenestri gofodau Platfform 2 Peak yng Ngorsaf y Fenni. Dewiswyd Zeta mewn galwad agored i Bobl Ifanc sydd wedi gwneud cais neu gymryd rhan yn rhaglen hydref flynyddol Peak, Cyfoedion Peak. Diolch i Hannah, artist ifanc sy’n astudio yn Ysgol Brenin Harri’r VIII Y Fenni, a’r artist a’r gwneuthurwr ffilm Tina Pasotra am fod ar y panel dethol, ochr yn ochr â chyd-gyfarwyddwr Peak Elen Roberts a’r Curadur Pobl Ifanc Cerian Hedd.
Ariennir gwaith comisiwn Platfform 2 gan gronfa Creu Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Paul Hamlyn.
Comisiynau Platfform 2 | Platfform 2 Commissions 2024-25
Nadheem Singh
July – September 2025
We are very excited to announce that our third Platfform 2 Commission at Y Fenni Station will be undertaken by Nadheem Singh, an Indian poet, artist, and facilitator based in Cardiff. Nadheem hosts poetry events as part of the Aubergine Arts Programme, which champions queer, neurodivergent creative expression. His writing explores themes of reconnection to nature, the experience of migration, and the emotional landscape of collective liberation.
For this commission, Nadheem will embrace the complexity of how humans navigate borderlands, while honouring the natural boundaries of the Earth expressed through; rivers, coastlines, forests, mountains, canyons, cliffs, bones, nests, and skin His work acknowledges the lived experience of those who face immigration challenges, forced displacement, and bureaucratic injustice at the hands of political borders. Through this commission, Nadheem will create work that aims to open up and connect these themes within the ecological and cultural parameters of Abergavenny.
The commission will be on display at Platfform 2 from July 2025, with a launch event on Saturday 26th July 2025.
Nadheem was selected from a public call-out for young artists aged 18-30, living within an hour of Peak’s sites. Thanks to writer and artist Kandace Siobhan Walker for shaping the open-call theme and for being on the selection panel alongside Eve Powell, a young artist from Peak’s network.
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd ein trydydd comisiwn Platfform 2 yng Ngorsaf Drenau’r Fenni yn cael ei greu gan Nadheem Singh, sef bardd, artist a hwylusydd o India sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae Nadheem yn cynnal digwyddiadau barddoniaeth fel rhan o Raglen Aubergine Arts, sy’n hyrwyddo mynegiant creadigol pobl gwiar a niwroamrywiol. Mae ei farddoniaeth yn archwilio themâu ailgysylltu â natur, profiad o fudo, a thirwedd emosiynol rhyddhad torfol.
Ar gyfer y comisiwn yma, bydd Nadheem yn cofleidio cymhlethdod sut mae pobl yn llywio ffindiroedd, gan anrhydeddu ffiniau naturiol y Ddaear sy’n cael eu mynegi drwy; afonydd, arfordiroedd, coedwigoedd, mynyddoedd, ceunentydd, clogwyni, esgyrn, nythod a chroen. Mae ei waith yn cydnabod profiad byw’r rhai sy’n wynebu heriau mewnfudo, dadleoli gorfodol ac anghyfiawnder biwrocrataidd dan law ffiniau gwleidyddol. Drwy’r comisiwn yma, bydd Nadheem yn creu gwaith sy’n anelu i agor a chysylltu’r themâu yma yng nghyd-destun paramedrau ecolegol y Fenni.
Bydd y comisiwn i’w weld ar Blatfform 2 o ddiwedd mis Gorffennaf 2025 ymlaen, gyda digwyddiad lansio ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf.
Dewiswyd Nadheem yn dilyn galwad gyhoeddus ar gyfer artistiaid ifanc rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw o fewn awr i safleoedd Peak. Diolch i’r awdur a’r artist Kandace Siobhan Walker am lunio’r thema ar gyfer yr alwad agored ac am fod ar y panel dethol ochr yn ochr ag Eve Powell, artist ifanc o rwydwaith Peak.
Ariennir gwaith comisiwn Platfform 2 gan gronfa Creu Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Paul Hamlyn.
Y Fenni Community Feast Commission
Peak partnered with Abergavenny Food Festival and The Angel Bakery for this year’s Abergavenny Community Feast, which took place in the town’s Market Hall on 14th May 2023. We commissioned an original artwork by the artist and gardener Gwenllian Spink to respond to the Feast’s theme of ‘The Kitchen Garden,’ celebrating the joys of local produce. Gwenllian, with whom we previously collaborated on last year’s Pegwn and Platfform Haf programmes, responded to the brief by looking to oral histories of folk remedies embodied in Welsh-speaking communities. She created 300 drinking coasters on Snowdonia slate, adorned with intricate drawings of herbs and vegetables, which were designed for all the Feast’s attendees to take home with them. We also present a new text by writer and Peak Associate, Dylan Huw, which introduces Gwenllian’s work and some of the research and dialogue behind it.
Gweithiodd Peak gyda Gŵyl Fwyd y Fenni a becws yr Angel eleni ar Wledd Gymunedol y Fenni, a ddigwyddodd yn Neuadd Farchnad y dref ym mis Mai am y tro cyntaf. Gwahoddom yr artist-arddwr Gwenllian Spink, a fuodd yn rhan o raglenni Pegwn a Platfform Haf llynedd, i greu gwaith celf gwreiddiol byddai’n ymateb at thema’r Wledd, ‘Y Gegin-Ardd,’ a dathlu cyfoeth cynnyrch lleol. Ymatebodd Gwenllian wrth edrych at hanesion llafar o feddyginiaethau gwerin mewn cymunedau Cymraeg. Crëodd [how many?] o fatiau diod ar lechi Eryri, â darluniadau cywrain o lysiau a pherlysiau arnynt, i bawb yn y Wledd gael cymryd adref. Ochr-yn-ochr â chomisiwn Gwenllian mae ysgrif byr gan y sgwennwr Dylan Huw, sy’n un o gymdeithion Peak, i gyflwyno’r gwaith a’r ymchwil a’r ddeialog tu ôl iddo.
Roedd rhinwedd neilltuol yn perthyn i law mis Mai
ac, yn arbennig, i law cyntaf Mai.
May rainfall, and May’s first in particular, has been known to possess all kinds of medicinal properties: to improve eyesight, to clean bruises, to kill cattle lice. Gwenllian Spink, an artist and gardener living in Nant Ffrancon, has taken inspiration from these and other Welsh folk remedies for an edition produced especially for today’s community feast. The commission, on Snowdonia slate, is informed by Anne Elizabeth Williams’ Meddyginiaethau Gwerin Cymru, which maps just some of these largely unrecorded salves, which are micro-locally rooted and intertwined with Welsh-language oral inheritances. For back pain, boil rhubarb root or a blackcurrant branch; if you have a cold, sleep with garlic in a sock and allow it to work its magic. Gwenllian’s gentle translation of some of these remedies onto slate asks that we consider not just where our produce comes from but what kinds of lineages of community knowledge it might contain. It asks too that we pay respect to embodied histories that evolve outside the strictures of dominant cultures—and that we enjoy the meal.
Gwyddwn i ddim tan yn ddiweddar bod rhai’n credu bod gan law cyntaf Mai bŵer unigryw i olchi briwiau, gwella llygaid gwan a lladd llau gwartheg. Ar achlysur gwledd heddiw (yn ogystal â glaw Mai, a dyfodiad yr Haf), mae Peak wedi comisiynu gwaith newydd gan yr artist-arddwr Gwenllian Spink. Trodd at ymchwil Anne Elizabeth Williams ar gredöau lleol Cymreig am rinweddau meddygyniaethol llysiau a pherlysiau, sydd wedi’u gwreiddio mewn ardaloedd penodol o Gymru a thraddodiadau llafar Cymraeg. Berwch wreiddiau riwbob neu gangen cyrans duon i wella poen cefn; cysgwch gyda garlleg mewn hosan i ddod dros annwyd. Mae cyfieithiad Gwenllian o rai o’r rhwymedi at lechen yn gofyn ein bod ni’n ystyried yr etifeddiaethau cymunedol a lleoliad-benodol mae pob darn o fwyd, a thir, yn cario. Mae’n gofyn hefyd ein bod ni’n talu teyrnged at ffurfiau ymgorfforedig o hanes, tu hwnt i ddiwylliant unffurf—a’n bod ni’n mwynhau’r pryd.
Dylan Huw
LUMIN
carve, hew, adze, bend, weave, grow, split, join
Platfform 2: July 11- August 8 | 11 Gorffennaf - 28 Awst
‘carve, hew, adze, bend, weave, grow, split, join is a work of speculative fiction about an autonomous community in a countryside of the future. Drawing on the interdependence of country and city as well as past revolutions in rural craft, it considers the tools, objects and methods of a woodworkers' coop after the decline of the metropolis. Alongside this, a quote from postcolonial theorist and poet Édouard Glissant similarly rejects the countryside as solely a place of conservatism, alternate histories suggest that ‘the countryside is also the place where there are revolutions’. - LUMIN, Sadia Pineda Hameed and Beau W Beakhouse
Poster box Commission | Comisiwn Poster mewn Ffrâm
LUMIN are a small press, radio and curatorial collective - supporting new and established artists, writers and cultural practitioners in work that is radical, personal and experimental. Based in Cardiff, LUMIN is run by artists Sadia Pineda Hameed and Beau W Beakhouse, forming a wider collective with their regular collaborators.
Casgleb guradurol, radio a gwasg fach yw LUMIN - sy’n cefnogi artistiaid, awduron ac ymarferwyr diwylliannol newydd a sefydledig gyda gwaith sy’n radical, yn bersonol ac yn arbrofol. Wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, caiff LUMIN ei rhedeg gan yr artistiaid Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, gan ffurfio casgleb ehangach gyda’u cydweithwyr rheolaidd.
As part of Casgleb, LUMIN are researching ideas and structures of autonomy, exploring what an autonomous space in the arts (and for creating together) is and how autonomy relates to the different areas of their practice. In general, autonomy means to be self-governed, and in this context, LUMIN are approaching autonomy as a means of finding a way beyond oppressive systems past and present.
Fel rhan o raglen Casgleb, mae LUMIN yn ymchwilio i syniadau a strwythurau ymreolaeth, gan archwilio beth yw ystyr gofod ymreolaethol yn y celfyddydau (ac ar gyfer cyd-greu), a sut mae ymreolaeth yn ymwneud â gwahanol feysydd eu harfer. Yn gyffredinol, mae ymreolaeth yn golygu hunan-lywodraethu, ac yn y cyd-destun yma, mae LUMIN yn edrych ar ymreolaeth fel dull o ddod o hyd i ffordd y tu hwnt i systemau gormesol ddoe a heddiw.
Commissioned by Peak, this is the second in a series of poster box commissions which will gently share artist works and research emerging from Casgleb, on Platfform 2, Abergavenny Train Station. Casgleb is supported by the Arts Council of Wales’ Connect and Flourish fund.
Marva Jackson Lord
Ecosystem and Meditation on Multilingualism
Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd
Poster box Commission | Comisiwn Poster mewn Ffrâm
Platfform 2: June 10th - July 4th | 10 Mehefin - 4 Gorffennaf
Ecosystem and Meditation on Multilingualism are two new works by Marva Jackson Lord reflecting on voice, language and the realities of being a Black woman living in this part of rural Wales. In the pair of works, Marva centres her own silhouette in the landscape, evoking invisible histories of Black people in perceived white environments.
Dau ddarn newydd o waith gan Marva Jackson Lord yw Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd, sy’n myfyrio ar y llais, iaith, a realiti bod yn fenyw Ddu sy’n byw yn y rhan yma o gefn gwlad Cymru. Yn y ddau ddarn, mae Marva’n gosod ei silwét ei hunan yn ganolog yn y tirlun, gan ddwyn i gof hanesion anweledig pobl Dduon mewn amgylcheddau a gaiff eu hystyried yn rhai gwyn.
In developing this work, Marva wove together her first memory of hearing Cymraeg, when she thought she was hearing Jamaican Patois, with her personal relationship to landscape. Mapping Jamaica's Blue Mountains onto the Brecon Beacons, Marva traces linked histories and colonial legacies, underpinned by her long-term exploration of language, emotional memory and her deep personal connection with the land which has been her home for twenty years.
Wrth ddatblygu’r gwaith yma, plethodd Marva ei hatgof cyntaf o glywed y Gymraeg, pan oedd hi’n meddwl mai Jamaiceg roedd hi’n ei chlywed, gyda’i pherthynas bersonol gyda thirlun. Gan fapio Mynyddoedd Gleision Jamaica ar Fannau Brycheiniog, mae Marva’n olrhain hanesion cysylltiedig a gwaddol trefedigaethol, ac yn sail iddynt, ei harchwiliad hirdymor o iaith, cof emosiynol, a’i chysylltiad personol dwfn gyda’r tir sydd wedi bod yn gartref iddi ers ugain mlynedd.
Commissioned by Peak and Pegwn, this is the first in a series of poster box commissions which will gently share artist works and research emerging from Casgleb, on Platfform 2, Abergavenny Train Station. Marva Jackson Lord is a Canadian-Jamaican artist based in the Brecon Beacons, whose work across poetry, sound and digital media explores landscape and fantastical narratives. Casgleb is supported by the Arts Council of Wales’ Connect and Flourish fund.
Mae hi wedi’i chomisiynu gan Peak a Pegwn, a dyma’r cyntaf mewn cyfres o waith comisiwn Poster mewn Ffrâm a fydd yn rhannu’n dyner ymchwil a gwaith artistiaid sy’n deillio o Casgleb, ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni. Artist Jamaicaidd-Canadaidd yw Marva Jackson Lord sy’n byw yn y Bannau, ac mae ei gwaith ym maes barddoniaeth, sain, a’r cyfryngau digidol yn archwilio tirwedd a naratifau rhyfeddol.
Walking Backwards into the Future
Cerdded am yn ôl Tua’r Dyfodol
Hydref Autumn 2021
Kandace Siobhan Walker - Kirsti Bohata - Esyllt Angharad Lewis
In imagining strategies for looking ahead from challenging times, Peak has been guided by Raymond Williams’ extensive writings which probe what ‘the future’ means: where it resides, how it’s produced. Earlier this year, to commemorate the centenary of the birth of the cultural theorist, socialist and educator, who was born in 1921 in Pandy, just up the road from us, we invited practitioners we’ve been inspired by to situate some of his ideas in our current moment, to see where his writings might collide with contemporary debates and ideas around Welshness, rurality and the seeming impossibility of meaningful societal change in a time of multiple intersecting crises.
Wrth i Peak geisio dychmygu ffyrdd o edrych tua’r dyfodol ynghanol cyfnod heriol, fe’m tywyswyd gan waith Raymond Williams yn ei ehangder wrth iddo geisio diffinio’r hyn a olygir gan ‘y dyfodol’: lle mae’n byw, ym mha fodd y’i cynhyrchir. Eleni, i nodi canmlwyddiant genedigaeth y theorïwr diwylliannol, sosialydd ac addysgwr, a fagwyd ym Mhandy, lan y lôn o Peak, gwahoddom artistiaid a sgwennwyr sydd yn ein hysbrydoli i leoli rhai o’u syniadau o fewn ein moment unigryw, i weld lle all sgwennu Raymond Williams daro’n erbyn rhai o’n pryderon a disgyrsau cyfoes ynghylch Cymreictod, bywyd gwledig ac amhosibilrwydd credu y gellir cyflawni unrhyw newid cymdeithasol arwyddocaol mewn oes pan fo argyfyngau’n pentyrru a phentyrru .
This took the form of three artist-led reading groups which were hosted online in May 2021 under the title Walking backwards into the future, after a 1985 essay in which Williams considers how we can look to the future when even our language is rooted in the past (‘recovery, rehabilitation, rebuilding’). Each reading group host was then invited to extend the conversations which first began in these sessions through a form of their choice. We share these with you here for the first time and the original reading materials can be accessed here.
Trodd hwn yn dri grŵp darllen creadigol a gynhaliwyd arlein ym mis Mai 2021 dan y teitl Cerdded am yn ôl Tua’r Dyfodol, ar ôl ysgrif o 1985 lle mae Williams yn cysidro ffyrdd o edrych i’r dyfodol pan fo’r geiriau a ddefnyddir i drafod yr hyn sydd tu hwnt i nawr yn sownd yn y gorffennol. Cafodd arweinwyr y grwpiau wahoddiad wedyn i ehangu ar y sgyrsiau a daniwyd yn eu grŵp mewn cyfrwng o’u dewis. Dyma rannu’r ymatebion hynny am y tro cyntaf. Cymerwch olwg hefyd ar ddeunydd darllen y tri grŵp gwreiddiol yma.
Kandace Siobhan Walker
Notes on Dreaming as Praxis
Yn ei ffilm-draethawd a chyhoeddiad digidol ‘Notes on Dreaming as Praxis’, mae’r sgwennwr Kandace Siobhan Walker (a gyfrannodd gerddi i’n cyhoeddiad ululations dros yr haf hefyd) yn gosod syniadau Williams ochr-yn-ochr â meddylwyr pwysig eraill i ffurfio dadl dros freuddwydio’n wyllt a’n feiddgar, a mynnu’r amhosib.
In her poetic essay film and accompanying publication ‘Notes on Dreaming as Praxis’, the writer and filmmaker Kandace Siobhan Walker (who also contributed poems for our publication ululations this summer) places Williams’ ideas alongside other key thinkers to formulate an argument for dreaming wildly, dreaming boldly, and demanding the seemingly impossible.
Kirsti Bohata
Between Country and City
Mae ysgrif yr ysgolhaig llenyddol Kirsti Bohata, ‘Between Country and City’, yn ymateb i drafodaeth ei grŵp darllen ar y modd y caiff gofodau a chymunedau gwledig eu ‘fframio’, a’r modd y mae’r broses o greu ac ail-greu diwylliant yn dibynnu ar bwy sy’n adrodd y stori.
The essay from Professor Kirsti Bohata, ‘Between Country and City’, responds to her reading group’s discussion of how rural spaces and inhabitants are ‘framed’, and how so much of culture’s making and remaking depends on who’s narrating it.
Esyllt Angharad Lewis
Technoleg Gwyblodau
Daeth ymateb yr artist, golygydd a chyfieithydd Esyllt Angharad Lewis (sydd ers y prosiect hwn wedi dod yn aelod o dîm staff Peak) yn ddarn sain, sydd rhywle rhwng nodyn llais a cherdd lafar, sy’n archwilio llithrigrwydd iaith. Mae ‘Technoleg Gwyblodau’ yn llifo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ac o gwmpas tensiynau rhwng natur a thechnoleg, terminoleg jargonllyd a mynegiant artistig.
For artist, editor and translator Esyllt Angharad Lewis (who has since joined Peak’s staff team as Communications Associate), her response became an audio work, which sits somewhere between voice note and poem, exploring the slipperiness of language. ‘Technoleg Gwyblodau’ flows between Welsh and English and around the tensions between nature and technology, jargon and artistic expression.
Fel grŵp o gomisiynau i’w gwylio, darllen a’u clywed ynghyd, mae’r tri darn yn ffurfio cywaith llawn syniadau am yr hyn mae’n ei olygu i edrych tua’r dyfodol nawr. Maent hefyd yn cynnig ffyrdd o feddwl, dychmygu a gweithio gyda’n gilydd i ni yn Peak, wrth i ni gychwyn cyfnod o ymchwil a datblygu hir-dymor gyda Phlatfform 2, ein gofodau newydd yng ngorsaf drenau’r Fenni.
Viewed, read and listened to together, this group of commissions collects together a toolkit of ideas for what it means to look to the future now. They also offer strategies for ways of thinking, imagining and working together for the Peak team, as we enter a period of long-term research and development centred around Platfform 2, our new spaces at Abergavenny Train Station.